Mae CCAUC yn falch o rannu ei farn ar gyfeiriad strategol rhaglenni Cyllid Strwythurol ar gyfer y dyfodol yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru, drwy ymateb i'r Ymarfer Myfyrio hwn, ar ôl cymryd rhan mewn gweithdai cysylltiedig. 

 

Yma rydym yn ffocysu'n bennaf ar ddwy o'r themâu allweddol a amlygwyd yn y ddogfen Ymarfer Myfyrio, 'Blaenoriaethau ar gyfer Buddsoddi' a 'Cyflenwi Strategol/Lleol', am ein bod o'r farn y bydd ganddynt oblygiadau sylweddol ar gyfer llywio'r themâu eraill a nodwyd yn y ddogfen honno.

 

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig y dylid defnyddio’r cylch nesaf o gyllid i gynhyrchu newid trawsffurfiol a thymor hir i fynd i’r afael ag achosion anhawster economaidd yn hytrach nag â'i symptomau. Mae’r Comisiwn hefyd yn cynnig y dylid gosod y gweithgaredd hwn o fewn strategaeth Ymchwil ac Arloesedd sy’n canolbwyntio adnoddau ar set gyfyngedig o flaenoriaethau ac yn amlinellu mesurau i ysgogi buddsoddiad preifat.

 

Mae hyn yn amserol ac yn gyfleus i Gymru, o ystyried ffocws cyfredol Llywodraeth Cymru ar sbardunau allweddol ar gyfer newid economaidd, gan gynnwys y strategaeth addysg uwch, meysydd blaenoriaeth economaidd, gwaith sy’n dod i’r fei ar y sectorau diwydiannol amrywiol, a gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu strategaeth ymchwil a datblygu i Gymru.

 

Yn ein tystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i gynigion deddfwriaethol drafft Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer 2014-2020, rydym yn dadlau mai’r her inni gyda’n gilydd yw sut i ddod â'r elfennau polisi hyn ynghyd er mwyn elwa orau ar y posibiliadau cyllido Ewropeaidd sy’n dod i’r amlwg, a sut orau i gael y bobl iawn ynghyd er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon mor gynhyrchiol â phosibl, a’i bod yn adeiladu ar gryfderau presennol – fel y rhai a fydd yn cael eu hamlygu yn y Polisi Gwyddoniaeth arfaethedig ar gyfer Cymru.

 

Byddai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ein caniatáu i integreiddio gweithgareddau ar draws gwahanol ffrydiau ariannu’r Undeb Ewropeaidd mewn ffyrdd newydd. Byddai’n bosibl defnyddio Cronfeydd Strwythurol (y byddai gan Gymru fantais ynddi dros y rhan fwyaf o rannau eraill y DU) i adeiladu capasiti mewn ymchwil ac arloesedd mewn meysydd o werth i Gymru a allai ddarparu llwyfan cryfach ar gyfer lansio ceisiadau yn y Rhaglen Fframwaith gystadleuol (a fydd yn cael ei galw'n Horizon 2020 yn y cylch nesaf), a denu ffynonellau eraill o gyllid a buddsoddiad i Gymru.

 

Yn y modd hwn gallem fynd i’r afael â'r her gyfarwydd iawn o adeiladu capasiti mewn ymchwil ac arloesedd (mewn prifysgolion a busnesau, yn gweithio mewn partneriaeth) ar raddfa a all gystadlu’n effeithiol. Byddai hyn yn sicrhau buddion eang a hir dymor i economi a chymdeithas Cymru gyfan. Mae'n fater o strwythur a threfniadaeth yn rhannol (sy'n cael sylw helaeth ym maes addysg uwch eisoes), ac yn fater o fuddsoddiad yn rhannol lle, er inni roi cymaint ag y gallwn, rydym yn gwario llai fesul aelod o staff ymchwil yn ein prifysgolion nag yw pob ardal yn Lloegr ac eithrio Dwyrain Canolbarth Lloegr, gyda’r rhanbarth sy'n gwario'r mwyaf, Dwyrain Lloegr (o gwmpas Caergrawnt) yn gwario pum deg y cant yn fwy.

 

Mae synergeddau rhwng y Rhaglen Fframwaith a Chyllid Strwythurol wedi bod yn rhan o’r agenda wleidyddol ar lefel Ewrop ers sawl blwyddyn, ac mae gwahanol gyrff wedi rhoi sylw iddo a’i ddadansoddi, gan gynnwys ‘Grŵp Arbenigwyr Synergedd’ y Comisiwn (SEG) a luniodd adroddiad ym mis Mehefin 2011 (gweler: http://ec.europa.eu/research/regions/pdf/synergies_expert_group_report.pdf).

 

Mae hyn yn pwysleisio y dylai Rhaglenni Gweithredol cenedlaethol / rhanbarthol ar gyfer Cyllid Strwythurol sy’n ymwneud ag ymchwil a datblygu ganolbwyntio’n glir ar:

·         Hyrwyddo cysylltiedigrwydd lleol a byd-eang

·         Gwella cydweithrediad rhwng y byd academaidd a diwydiant gan ganolbwyntio ar gefnogi clystyrau

·         Gwella a datblygu galluoedd a sgiliau ar gyfer ymchwil, arloesedd ac entrepreneuriaeth

·         Hyrwyddo moderneiddio prifysgolion a chyrff ymchwil a thechnoleg, gan gynnwys diweddaru ac adnewyddu offer ymchwilio

·         Cynnwys Seilweithiau Ymchwil mewn strategaethau datblygu rhanbarthol

 

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi er mwyn hyrwyddo synergeddau gwell rhwng addysg a rhaglenni ymchwil/arloesedd, dylai Rhaglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn ('Addysg Ewrop' o 2014) yn ogystal â Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ganolbwyntio mwy ar arloesedd a rhoi cefnogaeth well i sgiliau ar gyfer arloesedd, entrepreneuriaeth, cydweithrediad rhwng prifysgolion a'r sectorau economaidd.

 

Mae'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA) wedi nodi rôl allweddol ar gyfer 'y brifysgol gysylltiedig' i ysgogi adferiad a thwf yn economi Cymru. Mae'n nodi bod 'yr effaith a grëir drwy adeiladu a datblygu màs critigol o ragoriaeth yn amlwg. Ond gall hyn gymryd amser a gall fod yn anodd ac yn gostus - ac yn bwysicach fyth, i'w gyflawni rhaid adeiladu cymunedau sy'n cynnwys busnesau, academyddion a gwneuthurwyr polisi sy'n cydweithio ac yn datblygu cydberthnasau hirdymor, lleoedd lle mae rhwydweithiau'n cael eu hannog i dyfu' (gweler: http://195.88.100.72/resource/files/2009/06/12/connected_university_report_NESTA.pdf).

 

Y cwestiwn y gwnaethom ei ofyn yn ein tystiolaeth i'r pwyllgor oedd a allwn ni lwyddo i adeiladu ein prosesau rheoli mewn ffyrdd sy'n ein galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd y byddai cydweithrediad o'r fath a ddisgrifiwyd uchod yn eu cynnig. Bydd y mater hwn yn fater i'n disgresiwn ein hunain yng Nghymru, ac mae'n dystiolaeth o graffter Llywodraeth Cymru y gallwn gyfrannu at y gwaith o feddwl am y prosesau hyn yn ystod y camau cynnar, drwy'r Ymarfer Myfyrio hwn, a thrwy sianeli eraill yn y pen draw, gobeithio, wrth weithredu'r rhaglenni hyn yng Nghymru.

 

I gloi, os dewiswn symud i’r cyfeiriad hwn, bydd yn hanfodol bod dyraniadau cyllido’n ddigon mawr i wneud gwahaniaeth ar raddfa gweithrediadau cystadleuwyr ar draws y DU ac Ewrop. Er enghraifft, mae Saxony eisoes yn canolbwyntio ei gyllid cenedlaethol ac UE ar wella arloesedd, gan fuddsoddi tua 40% o’i Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn unig mewn cryfhau arloesedd, gwyddoniaeth ac ymchwil. Mae hyn wedi cael cymaint o effaith drawsffurfio nad yw rhannau o Saxony bellach yn gymwys i’r cylch nesaf o Gyllid Cydgyfeirio.

 

Rhag ofn y bydd o ddefnydd, rydym yn amgáu copi o dystiolaeth CCAUC i'r Pwyllgor Menter a Busnes, lle rydym yn nodi mwy o wybodaeth er mwyn ategu'r ymateb hwn.

 

Byddwn yn falch o ddarparu mwy o fanylion os bydd angen.